Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 2 Hydref 2017
Amser:
13.07 -
16.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4348
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Sophie Howe, Future Generations Commissioner Helen Verity, Office of the Future Generations Commissioner Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Caren Fullerton, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy, Llywodraeth Cymru Shan Morgan, Llywodraeth Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Richard Harries Julie Rees Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Craffodd yr Aelodau ar Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a Helen Verity, y Cyfarwyddwr Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol, o safbwynt Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.
4.1 Craffodd yr Aelodau ar Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a'i swyddogion, o safbwynt Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n:
· Anfon copi o'r llythyr a anfonodd ei rhagflaenydd ati cyn iddi ddechrau yn ei swydd, â'r rhannau priodol wedi'u golygu;
· Anfon ffigurau o ran newidiadau i enillion staff unigol dros £100,000 yng nghyfnod yr adroddiad; ac
· Anfon copi o'r polisi tâl presennol.
5.1 Craffodd yr Aelodau ar Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a'i swyddogion, o safbwynt heriau digidoleiddio.
6.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ffarwél gyda James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, cyn iddo adael y sefydliad.
6.2 Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo yn ei swydd newydd fel Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law gan gytuno y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i roi eu barn.
10.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
11.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law gan gytuno y dylai'r Cadeirydd ateb llythyr James Price dyddiedig 11 Medi yn gofyn am ragor o eglurhad ynglŷn â nifer o bwyntiau, gan gynnwys y rhai y cyfeiriwyd ato yn ei sesiwn ffarwél.